Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Cyllyll a ffyrc lan neu gyllyll a ffyrc lawr yn eich peiriant golchi llestri?
Am hunllef!
Ydy
hwn yn gwestiwn llosg yn eich tŷ chi? Oes unrhyw ffyrdd arbennig gyda
chi o lenwi'ch peiriant golchi llestri (os 'dych chi'n ddigon ffodus i
fod yn berchen ar un hynny yw)?
Synnwyr cyffredin?
Mae'r cogydd ac ymgynghorydd bwyd Nerys Howell, yn bendant ei barn:
"Mae synnwyr cyffredin yn dweud fod yn well i'r llafnau a'r ffyrc wynebu lan. Mae'r peiriannau 'ma'n gweithio drwy chwistrellu jets
o ddŵr ac os yw'r cyllyll a'r ffyrc a'u handlen i lawr bydd y dŵr yn
taro'r darnau brwnt, sydd yn wynebu lan ac yn rhoi lle i'r bwyd ac ati
lifo lawr i waelod y fasged a drwy'r tyllau i'r draen.
"Os yw
pethau'r ffordd arall rownd, does dim lle gyda'r bwyd i fynd ac mae'n
cronni ar y gwaelod gyda phigau'r ffyrc, y llwyau a chyllyll yn nofio yn
y baw yma."
Bach o 'loteri'
Ond
ai barn bersonol un person yw hyn, neu oes yna ryw sail hylendid? Aeth
Cymru Fyw at lygad y ffynnon sef Sioned Mai Fidler o'r Asiantaeth
Safonau Bwyd:
"Does gyda fi ddim peiriant fy hun, ond fi'n cofio
pan oedden ni'n byw gartre gyda Mam a Dad ac yn cael dadleuon tebyg ond
nid dim ond am safle a sefyllfa'r cyllyll a ffyrc ond am lle'r oedd pob
dim yn mynd!
"Cofiwch, roedd hi wastad yn ychydig bach o dishwasher lottery yn ein tŷ ni, gan fod gyda mam yr arferiad yma o ddechrau ail lenwi'r peiriant cyn ei wacau!"
Dim pwynt poeni gormod
"O
ran y cyllyll a ffyrc, mae yna ryw resymeg dros eu rhoi nhw yn y fasged
fach gyda'r llafnau'n wynebu i fyny, gan fod y dŵr yn draenio lawr ac
yn cadw'r llafnau'n lanach. Ond mae'r peiriannau 'ma mor effeithiol
dyddie 'ma, does dim llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd."
Mae
Nerys Howell yn cytuno i raddau gyda hyn, er mae gyda hi ei amheuon,
"Efallai bod y peiriannau hyn yn effeithiol ac yn gweithio ar dymheredd
uchel, ond os yw'r cutlery'n wynebu am lawr, sut mae'r dŵr am gyrraedd gwaelod y fasged?"
Ond mae'r ddwy'n gytûn ar un peth. Meddai Sioned:
"Mae'n
llawer pwysicach peido gorlenwi'r fasged na'r peiriant yn gyffredinol.
Yn fy marn i, arfer personol yn unig yw sut chi'n rhoi llestri a
chyllyll a ffyrc mewn i'r peiriant a dydy e ddim yn gwneud llawer o
wahaniaeth o safbwynt glendid na hylendid, ond fod gyda'r dŵr digon o le
i olchi pob dim yn iawn."
Yr hen ffordd Gymreig?
Felly ydy hi'n wir i ddweud fod hi'n llawer glanach golchi mewn peiriant na gyda llaw? Dim o reidrwydd yn ôl Sioned Mai Fidler:
"Os
fyddwch chi'n golchi gyda dŵr twym iawn a sebon, mae golchi â llaw yn
ffordd effeithiol iawn o ladd bacteria. Ond dau ddarn o gyngor. Gwisgwch
fenig rwber fel eich bod yn medru goddef dŵr llawer twymach, a gadewch
i'r llestri sychu'n naturiol.
"Mae'r lliain sychu llestri yn
medru bod yn fferm bacteria effeithiol iawn. Meddyliwch amdano, mae'n
damp ac yn weddol gynnes ar ôl sychu llestri, ac wedyn mae'n cael ei
hongian ar fachyn, lle mae'r bacteria'n cael digon o amser i dyfu."
Mae hyn yn destun dadlau yng nghartref Nerys hefyd, "Gan
bod fi'n gweithio ym maes arlwyo, 'rwy wedi pasio cwrs hylendid bwyd ac
yn gweld pethau mewn ffordd wahanol i'm gŵr. Fydd e'n hapus iawn i
sychu'r llestri gyda'r clwtyn sychu llestri mae newydd ddefnyddio i
sychu gwaed!"
Cyngor cignoeth
Ac un darn o gyngor olaf pwysig gan Sioned:
"Peidiwch
â golchi cig amrwd dan y tap! Mae'r holl facteria peryg sydd ar y cig
yn cael ei wasgaru dros eich sinc a'ch cegin lle mae'n medru heintio pob
dim arall. Chi'n llawer mwy tebygol o fynd yn sâl o ganlyniad i'r
pethau hyn nag i ba gyfeiriad fydd eich cyllyll a ffyrc yn wynebu!"
"Ond rwy'n credu y gwnâ i barhau i gadw nhw i wynebu lan... jest rhag ofn."
Dyma farn Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, am ddigwyddiadau diweddar yn y Cynulliad.
_____________
Un cwestiwn ac un cwestiwn yn unig sydd gen i yn sgil
digwyddiadau'r pedair awr ar hugain diwethaf. Beth ar y ddaear oedd ar
feddwl Carwyn Jones pan benderfynodd galw pleidlais i ethol Prif
Weinidog heb sicrhau bod ganddo'r niferoedd i'w hennill?
Mae sawl
aelod Llafur wedi cynnig atebion i'r cwestiwn hwnnw. Mae'r rheiny'n
amrywio a dydw i ddim yn sicr fy mod mymryn yn agosach at y lan o'u
clywed. [none the wiser]
Yn ôl un fersiwn o'r stori roedd Llafur a Phlaid Cymru
wedi cyrraedd cytundeb y byddai Plaid yn cael dewis Llywydd y Cynulliad
ac o ganlyniad yn rhoi rhwydd hynt [= free passage] i Carwyn gadw ei swydd. Yr honiad yw
bod Plaid Cymru wedi torri ei gair ar y funud olaf.
Pe bai hynny'n wir fe fyddai Llafur wedi gwneud môr a mynydd o'r peth. Gallwn ddiystyru'r fersiwn yna'n weddol hawdd felly.
Mae
stori arall yn portreadu Carwyn Jones fel rhyw fath o gynllwyniwr
Maciafelaidd oedd yn dymuno colli'r bleidlais er mwyn gallu defnyddio
fideo o aelodau Ukip yn cefnogi Leanne Wood mewn darllediadau
gwleidyddol.
Does ond angen ail-adrodd yr honiad i sylweddoli pa
mor wirion yw e. Pam ar y ddaear y byddai Prif Weinidog yn peryglu ei
swydd er mwyn cynhyrchu deunydd propaganda ar gyfer etholiad sy'n
flynyddoedd i ffwrdd a lle na fydd e'n ymgeisydd?
Serch hynny
mae'r ail esboniad yna yn cynnig cliw bach i ni ynghylch meddylfryd o
fewn y blaid Lafur a allasai wedi arwain at drybini [= trafferth] ddoe.
Am ryw
reswm neu'i gilydd mae 'na gred ymhlith actifyddion Llafur bod mwyafrif
pobl Cymru yn perthyn i'w llwyth. Eu cred yw bod rhyw 30% o bobol Cymru
yn Dorïaid digyfaddawd a digyfnewid [= uncompromising and unchanging]. Mae pawb arall yn y bôn yn bobl
Llafur - beth bynnag yw eu pleidlais.
Mewn geiriau eraill roedd
yr holl bobl yna wnaeth bleidleisio i Blaid Cymru, y Blaid Werdd, y
Democratiaid Rhyddfrydol a'r gweddill wythnos yn ôl rili, rili, rili
moen gweld Carwyn Jones yn llywodraethu am bum mlynedd arall. Oherwydd
hynny fe fyddai'n hunanladdiad gwleidyddol i gynrychiolwyr y pleidiau
hynny torri'r un gair â Thori neu Ukipwr. Doedd dim peryg felly o alw'r
bleidlais.
Dydw i ddim yn gwybod o ble mae'r syniadau yma'n dod
ond mae'n rhyfeddod bod rhai o actifyddion Plaid Cymru yn eu credu
hefyd. Er mwyn y nefoedd, bois, mae'r pyllau wedi hen gau a neb dan
ddeugain yn cofio Margaret Thatcher. Rhowch daw arni. ['give it a rest', 'shut up']
Heddiw
cawsom wybod bod Llafur yn trafod ag Ukip a'r Ceidwadwyr yn ogystal â
Phlaid Cymru mewn ymdrech i ddod allan o'r picl. Hynny yw, mae Llafur yn
cyflawni'r union bechod a'r un gan Blaid Cymru yr oedd Aelodau Seneddol
Llafur yn brefu yn ei gylch ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr.
Yr
Aelodau Seneddol oedd yn gwneud hynny, sylwer, nid yr Aelodau
Cynulliad. Mae'r rheiny wedi sylweddoli nad oes dewis mewn siambr grog
ond siarad - a siarad â phawb. Mae'n biti efallai na sylweddolwyd hynny
cyn pleidlais ddoe.