Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Monday, 7 March 2016
Tuesday, 1 March 2016
Be ydi'r pwynt?
Diolch i Myfyrdodau Mân Wybedyn
Mae hi wedi dod i’r amlwg fod neb yn swyddfeydd S4C yn dallt eironi bellach. I ddathlu gŵyl ein nawddsant hoff mae gwybodusion y sianel wedi penderfynu cyflwyno isdeitlau Saesneg awtomatig ar raglenni am bum niwrnod. Ymgais, mae’n debyg, i ddenu mwy o wylwyr di-gymraeg at y sianel, neu fel y mae nhw’n ei ddweud:
Nest Gwilym ; Dysgwyr yn siarad yn wych ar #tarorpost yn erbyn gosod isdeitlau awtomatig ar raglenni, os nad ydyn nhw am eu gweld yna be di'r pwynt @S4C
S4C: Diolch am eich sylw. ‘Da ni’n estyn
at bobl sy’n llai hyderus, di-Gymraeg a chartrefi iaith gymysg.
Yn gyntaf, ambell i beth ymarferol: a) Mae isdeitlau yn amharu ar y profiad gwylio i wylwyr Cymraeg. Pan yr yda ni’n gweld geiriau wedi ei hysgrifenu mewn iaith yr yda ni’n ei ddeall, ryda ni’n darllen y geiriau yna yn awtomatig:
b) O ran y ddadl fythol honno “Ystyriwch y dysgwyr!”, isdeitlau Cymraeg sydd fwyaf o help i ddysgwyr. Dal dysgwyr yn ol mae isdeitlau Saesneg, gan fod rhywun yn teimlo fel eu bod nhw’n ymarfer eu Cymraeg, ond heb herio ei hunain na ddatblygu rhyw lawer mewn gwirionedd. Mae darllen isdeitlau Cymraeg yn help i ddeallt y sgwrs ac yn cryfhau sgiliau iaith, ac yn gwbwl resymol i unhryw un sydd wedi cyraedd lefel A2 mewn iaith (yr ail lefel o’r 6 safon Ewropeaidd).
Ond dyna ni, nid am ddenu gwylwyr mae hyn yn y bôn naci? Cyfiawnhau eu raison d’etre mae S4C unwaith eto, fel y mae’r Urdd yn ei wneud bob tro mae prifweithredwr newydd yn pwysleisio ei huchelgais penna o ddenu mwy o ddi-gymraeg i’r mudiad. Dydi bod yn fudiad neu sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn reswm digon da bellach, mae’n ymddangos.
Bob tro mae ‘na ryw anesmwythyd ynglyn a chyllid neu gefnogaeth wleidyddol, mae sefydliadau Cymreig am y cyntaf i egluro gymaint mae nhw’n ei wneud i drio dennu y di-Gymraeg at eu haelwyd. Be mae hyn yn ei wneud ond cadarnhau y rhagfarn fod darparu ar gyfer y Gymraeg ynddo’i hyn ddim yn bwrpas digonol?
Does neb yn disgwyl i’r BBC ddatblygu eu cynulleidfa yn Sweden. Mae bod yn gorfforaeth ddarlledu Brydeinig, Saesneg ei hiaith yn cael ei derbyn fel raison d’etre digonol. Cyfrifoldeb rhywun arall ydi Sweden. Gadawed i’r BBC boeni am ei chynilleidfa graidd.
Sut stad sydd ar ffigyrau aelodaeth yr Urdd yn Eryri erbyn hyn tybed? Faint o aelodau sy’n cael cyfle cyson i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyson drwy Urdd- faint sydd ddim ond yn ymaelodi er mwyn cystadlu mewn un steddfod gylch, unwaith y flwyddyn? Ond na, nid gwella ei darpariaeth ar gyfer cymunedau Cymreig ‘mo blaenoriaeth yr Urdd bellach mae’n debyg (mor ddirfawr ac mae’r angen yn rhai o’r cymunedau yna bellach).
Ac S4C- be am y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd byth yn troi at y sianel? A digon o rheini yn aelwydydd uniaith? Pa ddathliad pum niwrnod sy’n cael ei baratoi ar eu cyfer nhw?
Rhaid i ni beidio chwarae’r gêm wirion yma o ruthro i gyfiawnhau ein bodolaeth. Ryda ni’n bodoli, mae hi’n iawn ac yn deg i ni gael gwasanaethau yn ein hiaith ein hynain. Diwedd y ddadl. Trwy blygu drosodd i ddenu cynilleidfa ddi-Gymraeg ryda ni’n gwneud dim ond cadarnhau amheuon y commenters Daily Mail sy’n arthio “It’s just a made up language, whats the point…” ayb. Os nad ydi’n siannel ni ein hynain yn “gweld y pwynt”, yna pa obaith? Nid raison d’etre S4C ydi darparu cynnwys ar gyfer y di-gymraeg – os ie, yna mae isdeitlau yn ffordd dila iawn o fynd ati. Os gwneud rhywbeth, ei wneud o’n iawn S4C bach- dybiwch y rhaglenni i gyd i’r Saesneg.
Gadwch i ni gael yr hyder i beidio ymddiheuro dros ein bodolaeth, ia?

“Most literate adults cannot or do not ignore words even when it is to their advantage to do so.”Yda chi erioed wedi trio y gem ‘na o ddarllen lliwiau? Coch Gwyrdd Melyn Glas– Beth sydd haws, darllen y gair neu enwi lliw y ffont? Wrth wylio rhaglen efo is-deitlau, mae rhywun yn darllen yr isdeitlau yn awtomatig, ac mae darllen isdeitlau mewn un iaith a gwrando ar sgwrs mewn iaith arall yn tarfu ar y gwylio. Da i S4C gofio weithiau mai er mwyn pleser, ac nid o ddyletswydd mae Cymry Cymraeg (i fod) i wylio’r sianel.
b) O ran y ddadl fythol honno “Ystyriwch y dysgwyr!”, isdeitlau Cymraeg sydd fwyaf o help i ddysgwyr. Dal dysgwyr yn ol mae isdeitlau Saesneg, gan fod rhywun yn teimlo fel eu bod nhw’n ymarfer eu Cymraeg, ond heb herio ei hunain na ddatblygu rhyw lawer mewn gwirionedd. Mae darllen isdeitlau Cymraeg yn help i ddeallt y sgwrs ac yn cryfhau sgiliau iaith, ac yn gwbwl resymol i unhryw un sydd wedi cyraedd lefel A2 mewn iaith (yr ail lefel o’r 6 safon Ewropeaidd).
Ond dyna ni, nid am ddenu gwylwyr mae hyn yn y bôn naci? Cyfiawnhau eu raison d’etre mae S4C unwaith eto, fel y mae’r Urdd yn ei wneud bob tro mae prifweithredwr newydd yn pwysleisio ei huchelgais penna o ddenu mwy o ddi-gymraeg i’r mudiad. Dydi bod yn fudiad neu sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn reswm digon da bellach, mae’n ymddangos.
Bob tro mae ‘na ryw anesmwythyd ynglyn a chyllid neu gefnogaeth wleidyddol, mae sefydliadau Cymreig am y cyntaf i egluro gymaint mae nhw’n ei wneud i drio dennu y di-Gymraeg at eu haelwyd. Be mae hyn yn ei wneud ond cadarnhau y rhagfarn fod darparu ar gyfer y Gymraeg ynddo’i hyn ddim yn bwrpas digonol?
Does neb yn disgwyl i’r BBC ddatblygu eu cynulleidfa yn Sweden. Mae bod yn gorfforaeth ddarlledu Brydeinig, Saesneg ei hiaith yn cael ei derbyn fel raison d’etre digonol. Cyfrifoldeb rhywun arall ydi Sweden. Gadawed i’r BBC boeni am ei chynilleidfa graidd.
Sut stad sydd ar ffigyrau aelodaeth yr Urdd yn Eryri erbyn hyn tybed? Faint o aelodau sy’n cael cyfle cyson i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyson drwy Urdd- faint sydd ddim ond yn ymaelodi er mwyn cystadlu mewn un steddfod gylch, unwaith y flwyddyn? Ond na, nid gwella ei darpariaeth ar gyfer cymunedau Cymreig ‘mo blaenoriaeth yr Urdd bellach mae’n debyg (mor ddirfawr ac mae’r angen yn rhai o’r cymunedau yna bellach).
Ac S4C- be am y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd byth yn troi at y sianel? A digon o rheini yn aelwydydd uniaith? Pa ddathliad pum niwrnod sy’n cael ei baratoi ar eu cyfer nhw?
Rhaid i ni beidio chwarae’r gêm wirion yma o ruthro i gyfiawnhau ein bodolaeth. Ryda ni’n bodoli, mae hi’n iawn ac yn deg i ni gael gwasanaethau yn ein hiaith ein hynain. Diwedd y ddadl. Trwy blygu drosodd i ddenu cynilleidfa ddi-Gymraeg ryda ni’n gwneud dim ond cadarnhau amheuon y commenters Daily Mail sy’n arthio “It’s just a made up language, whats the point…” ayb. Os nad ydi’n siannel ni ein hynain yn “gweld y pwynt”, yna pa obaith? Nid raison d’etre S4C ydi darparu cynnwys ar gyfer y di-gymraeg – os ie, yna mae isdeitlau yn ffordd dila iawn o fynd ati. Os gwneud rhywbeth, ei wneud o’n iawn S4C bach- dybiwch y rhaglenni i gyd i’r Saesneg.
Gadwch i ni gael yr hyder i beidio ymddiheuro dros ein bodolaeth, ia?
Ffrae is-deitlo S4C
Diolch i Golwg360 am yr erthygl hon.
Mae S4C wedi ymateb i’r cwynion am ei bwriad i is-deitlo ei holl raglenni yr wythnos nesaf trwy bwysleisio mai ymgyrch am bum niwrnod yn unig fydd hyn.
Roedd rhai o wylwyr S4C wedi dweud y byddan nhw’n boicotio’r sianel yr wythnos nesaf mewn protest ynglŷn ag isdeitlau Saesneg ar rai rhaglenni.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C; “Ry’ ni’n diolch i bawb sydd wedi cysylltu gyda ni i rannu barn am yr ymgyrch yma. Mae’n dda clywed trafodaeth angerddol am y sianel.
“Rwy’n pwysleisio mai ymgyrch am bum niwrnod yn unig yw hyn. Does dim angen pryderu a does dim bwriad cyflwyno isdeitlau yn awtomatig yn barhaol. Ar ôl wythnos nesaf, byddwn yn ôl i’r drefn arferol ac yn annog pobl sydd eisiau ei defnyddio i’w troi ymlaen, ac i gysylltu â ni am gymorth.
“Nid pob rhaglen fydd yn dangos isdeitlau Saesneg awtomatig wythnos nesaf, ac fe allwch wylio pob rhaglen ar alw ar-lein heb yr isdeitlau.”
Roedd y sianel Gymraeg wedi cyhoeddi y byddai’r isdeitlau yn cael eu gosod ar waelod rhai rhaglenni am bum diwrnod fel rhan o arbrawf er mwyn ceisio hyrwyddo’r sianel i wylwyr di-Gymraeg.
Ond mae hynny wedi codi gwrychyn nifer gan gynnwys yr ymgyrchydd iaith Simon Brooks, sydd wedi cyhuddo S4C o geisio “mynd yn sianel ddwyieithog”.
‘Cymryd gwylwyr craidd yn ganiataol’
Mae nifer o wylwyr eisoes wedi mynegi siom a dicter ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan na fydd modd diffodd yr isdeitlau yn ystod yr arbrawf.
Bellach mae hyd yn oed hashnod #DewisDiffoddS4C wedi cael ei chreu, ac yn ôl Simon Brooks mae’n gyfle i anfon neges i’r sianel nad oes croeso i’r isdeitlau.
“Yn bersonol, byddwn yn cefnogi boicot,” meddai, gan ddweud ei fod yn teimlo fod S4C yn “cymryd eu cynulleidfa graidd yn ganiataol”.
“Dw i’n pryderu’n fawr y bydd S4C yn edrych ar eu ffigyrau gwylio wythnos nesa’, ac os oes cynnydd mawr, mi fydd pwysau yn codi i gael isdeitlau ar y sgrin yn barhaol.
“Efallai y byddai’n gwneud lles pe bai gostyngiad yn y nifer sy’n gwylio S4C wythnos nesa’.”
Subscribe to:
Posts (Atom)