2 Gorffennaf 2017
Mae athrawon yng Nghymru'n "poeni'n fawr" am ddyfodol ieithoedd tramor, yn ôl arolwg gan y Cyngor Prydeinig.
Mae'r arolwg yn dod i'r casgliad fod llai na 10% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn astudio iaith dramor yn nhraean ysgolion Cymru.
Dywedodd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru fod hyn yn gosod "her aruthrol".
Mae cynllun ar y gweill yn barod i geisio gwella'r sefyllfa, medd Llywodraeth Cymru.

Casgliadau eraill
- 44% o ysgolion â llai na phump disgybl yn astudio iaith dramor ar gyfer lefel AS
- 61% o ysgolion â llai na phump disgybl iaith dramor ar gyfer Safon Uwch
- 63% o adrannau ieithoedd tramor ag un neu ddau athro llawn amser, gyda thraean yn dibynnu ar athrawon o wledydd eraill yr Undeb Ewropeiadd

Rhwng 2002 a 2016, bu gostyngiad o 48% yn nifer y disgyblion oedd yn astudio iaith dramor ar gyfer TGAU, i 6,891 y llynedd.
O ran Safon Uwch, mae'r canran wedi gostwng 44% ers 2001.
Mae'r adroddiad yn dweud fod y rhagolygon
ar gyfer ieithoedd tramor "yn edrych hyd yn oed yn fwy bregus o
ystyried y pwysau ariannol sydd ar ysgolion ac effaith posib gadael yr
Undeb Ewropeaidd".
Ychwanegodd fod diffyg athrawon yn fygythiad pellach i ddarpariaeth ieithoedd tramor.
Dywedodd fod y sefyllfa'n debygol o fod
yn "ddifrifol" os na fydd athrawon o wledydd eraill y UE ar gael yn
dilyn Brexit, gan fod 34% o ysgolion yn dibynnu ar yr athrawon hynny.
Daw'r arolwg 18 mis wedi i Lwyodraeth Cymru
ddechrau ar gynllun Dyfodol Byd-eang i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor
yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth
Cymru: "Yn ystod y misoedd diwethaf yn unig, mae'r llywodraeth wedi
sicrhau nawdd pellach ar gyfer prosiectau mentora ysgolion cenedlaethol,
wedi ei arwain gan academyddion a myfyrwyr iaith, ac mae wedi arwyddo
cytundeb ar ddysgu ieithoedd gyda Llywodraeth Sbaen.
"Rydym yn credu fod ieithoedd yn chwarae
rôl bwysig wrth roi addysg gyflawn i berson ifanc, i'w cefnogi i ddod yn
ddinasyddion sy'n gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn ieithoedd eraill a
gwerthfawrogi diwylliannau eraill."
Arolwg 2016-17 yw'r trydydd adroddiad blynyddol ar sefyllfa dysgu ieithoedd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Annog mwy i astudio ieithoedd tramor
3 Rhagfyr 2015
Bydd pedair o brifysgolion Cymru'n
cyhoeddi cynllun newydd i geisio mynd i'r afael â'r "gostyngiad
difrifol" yn nifer y disgyblion ysgol sy'n astudio ieithoedd tramor
modern.
Mae'r cynllun peilot yn cael nawdd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth Dyfodol Byd-eang.
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Pennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac arweinydd academaidd y prosiect: "Er bod Cymru'n genedl ddwyieithog, mae nifer y disgyblion ysgol sy'n dewis astudio o leiaf un iaith fodern ar lefel TGAU wedi gostwng o 55% ym 1995 i tua 22% yn 2013.
"Rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yn llesteirio [llesteirio - rhwystro, atal, dal yn ôl] cyfleoedd addysgol, hyfforddiant a gyrfaol i bobl ifanc o Gymru."
Nid yng Nghymru'n unig y mae hyn yn broblem, ychwaith. Mae gostyngiad tebyg i'w weld yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan Loegr a'r Alban eu dulliau polisi eu hunain o wneud cynnydd.
Mae'r cynllun newydd yn ddilyniant o waith sy'n digwydd yn barod rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, pan fo prifysgolion yn cynnal gwaith allanol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd.