Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae rheolwr gwasg y Lolfa yn
rhybuddio bod yna fygythiadau i Gymru a'r hunaniaeth Gymreig yn sgil
digwyddiadau gwleidyddol diweddar.
Eleni mae'r cwmni o Dalybont, Ceredigion, yn dathlu penblwydd yn 50 oed.
Yn ôl Garmon Gruffudd fe allai'r dyfodol fod yn ansicr.
"Yn
sicr gyda Brexit a'r posibilrwydd bod yr Alban yn mynd i fynd yn
annibynnol mae 'na her i ni gyflwyno safbwyntiau Cymreig, hunaniaeth
Gymreig a chreadigrwydd Cymreig a bod hynny yn fwy pwysig nag erioed.
"Mae'n anodd gwybod beth ddigwyddith. Ond dw i'n meddwl bod peryglon i ddyfodol Cymru fel cenedl.
"Mae
peryg i ni gael ein llyncu gan Loegr efallai yn enwedig o feddwl falle
aiff yr Alban yn annibynnol, Gogledd Iwerddon falle'n uno gydag Iwerddon
felly fe allai Cymru gael ei gadael mewn sefyllfa gwan."
Mae'n
dweud y bydd y Lolfa sydd wastad wedi rhoi pwyslais ar hyrwyddo Cymru
a'r hunaniaeth Gymreig yn parhau i wneud hynny "ac i raddau bod yn wasg
propaganda dros Gymru".
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu panel annibynnol i adolygu'r
diwydiant cyhoeddi yng Nghymru dan Gadeiryddiaeth yr Athro Medwin
Hughes.
Roedd disgwyl i'r panel adrodd ar ei gasgliadau y
llynedd, ond mae'r adroddiad wedi'i ohirio oherwydd y gwaith oedd
ynghlwm ag ystyried y nifer uchel o ymatebion a dderbyniodd y panel fel
rhan o'r adolygiad.
Bydd adroddiad y panel yn cael ei gyhoeddi'n
fuan ac mae Garmon Gruffudd yn gobeithio y bydd y panel a'r llywodraeth
yn sylweddoli pwysigrwydd y diwydiant llyfrau.
Adfywiad
"Byddwn
i'n disgwyl i'r llywodraeth roi mwy o gefnogaeth i'r byd llyfrau ac yn
gweld fod gan y byd llyfrau gyfraniad, er enghraifft yn y gwaith o gael
miliwn o siaradwyr Cymraeg, a hefyd i gyflwyno hanes, diwylliant a
hunaniaeth mewn ffordd bositif a dysgu pobl fod modd i Gymru fod yn wlad
lwyddiannus."
Er pryderon Mr Gruffudd wrth edrych i'r dyfodol
mae hefyd yn dweud eu bod nhw fel cyhoeddwyr llyfrau yn mynd i fod yn
brysurach.
"Dros yr hanner can mlynedd dwetha ry'n ni wedi bod yn
ehangu yn ara bach - ry'n ni'n dal i ddatblygu ein rhaglen gyhoeddi ac
yn anelu at gyhoeddi rhyw gant o lyfrau'r flwyddyn, dyna'r nod.
"Mae
pobl wedi bod yn darogan diwedd y llyfr print ond dw i'n meddwl bod
adfywiad a dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae e-lyfrau wedi arafu ac
mae 'na gynnydd bychan eto yng ngwerthiant llyfrau print."
Mae cyfrinachau a chelwyddau yn dod i’r wyneb wrth i frodyr a chwiorydd
ddod ynghyd i daenu llwch eu mam, Mair ac i drafod dyfodol y cartref
teuluol. Croeso i Dolwen – hen dŷ mawreddog sy’n lleoliad i’r gyfres
newydd o’r ddrama ddirgel 35 Diwrnod,sy’n dechrau nos Sul, 5 Mawrth.
Dyma gyfres sydd wedi ei hysgrifennu gan yr awdures Siwan Jones, lle
rydym yn gwybod pwy sydd wedi’i llofruddio ond pwy o blith y teulu sy’n
gyfrifol am hyn? A pham? Dros gyfnod o 35 diwrnod, mae tyndra a
thristwch chwerw yn datblygu o fewn waliau’r hen ffermdy, sydd yn y
pendraw yn arwain at farwolaeth Ifan, brawd ieuenga’r teulu sy’n cael ei
chwarae gan yr actor Gwydion Rhys.
Dyw teulu fferm Dolwen ddim wedi bod o dan yr un to ers dathlu
pen-blwydd eu diweddar dad Gwyndaf, bum mlynedd ynghynt. Bydd sawl
breuddwyd yn chwalu’n deilchion wrth i’r plant amau bod eu hewythr Huw
wedi dwyn perswâd ar eu mam i newid ei hewyllys. Wrth iddyn nhw ei herio
a mynnu cael y tir yn ôl, mae trais a chenfigen yn lledu cysgod tywyll
dros fferm Dolwen.
“Doeddwn i ddim am wybod pwy oedd yn gyfrifol am lofruddio Ifan tan y
funud olaf,” meddai Gwydion Rhys, sy’n dod o Felinfach, Bro Preseli ac
yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi drama fel Tir a Cara Fi. “Weithiau mae
ffeindio mas misoedd o flaen llaw yn medru effeithio’r actio. Wrth adael
hwn tan y funud olaf, ro’n i wir yn teimlo y gallai unrhyw beth
ddigwydd. Fe wnaeth e’n sicr fy nghadw i on edge!”
“Roedd ffilmio’r gyfres yn gymaint o hwyl a chael chwarae rôl person
sy’n cael ei lofruddio yn gyffrous iawn. Mae’r stori i gyd am ddeinamig
deuluol ac mae digon o ddadlau rhwng y brodyr a’r chwiorydd ynglŷn â
phwy ddylsai etifeddu beth,” ychwanegodd Gwydion, sydd nawr yn byw yn
ardal Pontarddulais.
“Mae pwysau mawr ar ysgwyddau Ifan bob amser a dyw e ddim yn un i
leisio ei farn,” meddai Gwydion.”A gan ei fod e bob amser yn edrych wedi
blino ac o dan straen, ro’n i’n medru mynd i’r ystafell golur yn y bore
wedi blino a dyna oedd yr edrychiad ro’n i angen i chwarae cymeriad
Ifan!Mi roedden ni gyd fel actorion yn medru uniaethu gyda rhai o’r
themâu, mae teuluoedd i gyd yr un fath. Er, yn 35 Diwrnod mae ‘na
lofruddiaeth felly dyw bob teulu ddim cweit run fath!”
Y cwestiwn mawr ar wefusau pawb fydd pwy sy’n gyfrifol am lofruddio
Ifan a pham? Fe fydd digon o waith dyfalu a chraffu yn y gyfres newydd o
35 Diwrnod.
Wrth i'r Gymraeg gael mwy o sylw nag
erioed ym maes chwaraeon a darlledu mae cyn faswr [maswr - fly-half] Cymru, Jonathan
Davies yn galw am fwy o anogaeth i'r rheiny sy'n llai hyderus yn eu
Cymraeg.
Dywedodd bod rhoi pwysau ar bobl i siarad Cymraeg pur yn gwneud rhai chwaraewyr yn llai parod i arddel yr iaith.
Cafodd ei farn ei hategu [cadarnhau, cefnogi] gan y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, sy'n dweud bod y sefyllfa'n debyg yn ei gamp o.
Daeth sylwadau Davies cyn cynhadledd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon.
'Pwysau'
Yn
siarad ar raglen Newyddion 9 nos Iau, dywedodd Davies: "Fi'n trio
siarad yn naturiol, 'smo'n Gymraeg i mor dda â lot o bobl ond dwi'n
gwneud rhaglenni chwaraeon a newyddion chwaraeon yn Gymraeg.
"Os fi'n gallu neud a helpu'r iaith fi'n hapus i wneud hynny.
"Fi'n
credu mae cymaint o bwysau... os yw pobl yn trio siarad Cymraeg mae'r
bobl na sy'n meddwl bo nhw'n bwysig yn yr iaith Gymraeg yn tueddu dodi
nhw lawr.
"A fi'n gwybod bod sawl chwaraewr ddim mo'yn siarad
Cymraeg achos bo nhw'n meddwl bod nhw'n cael cymaint o bwysau arnyn nhw
achos dyw pobl ddim yn meddwl bod eu Cymraeg nhw ddim yn ddigon pur.
"A fi'n credu byddech chi'n surprised pwy yw'r chwaraewyr 'na sydd ddim mo'yn siarad Cymraeg achos y pwysau hynny."
'Anghyfforddus'
Dywedodd y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, bod y sefyllfa'n debyg yn y gamp honno.
"Dwi'n
meddwl ei bod hi'n hawdd i fi, i bobl sy' wedi'u dwyn i fyny yn siarad
yr iaith fel iaith gyntaf, ond dydy hi ddim mor hawdd i bobl sydd yn
Gymraeg ail iaith," meddai.
"Yn y byd pêl-droed, dyna'n union dwi
wedi'i weld. Ma' Joe [Allen] yn gyfforddus ofnadwy yn gwneud
cyfweliadau'n Gymraeg rŵan, ond dwi'n gw'bod dros y blynyddoedd ei fod o
ddim yn gyfforddus gwneud cyfweliadau'n Gymraeg achos ei fod o'n meddwl
bod ei Gymraeg o ddim digon da. Aaron [Ramsey] 'run fath.
"Mi o'dd Aaron yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg pan
oedd o'n chwarae i Gaerdydd. Ond iddo fo, yn anffodus, gael y profiad o
bobl yn cywiro geiria', sut i siarad a gwneud iddo fo deimlo'n
anghyfforddus, 'da ni rŵan mewn sefyllfa lle 'da ni ddim yn cael clywad
o'n siarad yn ein iaith ni.
"Dydy o ddim y mwyafrif, ond yn
anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath. Os ti ar
Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl yn d'eud bod chdi'n
'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml iawn un fela sy'n
aros yn y cof."
'Tamed bach o slac'
Dywedodd Davies ei bod hi'n bwysig i bobl "feddwl am eraill" wrth fynd ati i newid y sefyllfa.
"Falle bod eu iaith nhw yn bur ac yn iawn ond sdim pawb fel nhw achos sdim pawb yn defnyddio'r iaith bob dydd," meddai.
"Os
ydyn nhw mo'yn i'r iaith i gadw fynd a chryfhau'r iaith mae angen rhoi
tamed bach o slac i bobl, a gweud os ydyn nhw'n fodlon siarad Cymraeg
fel maen nhw'n hapus, wel dyna ni."
________________
Plismyn iaith ar waith?
Mae sylwadau'r cyn-chwaraewr rygbi
Jonathan Davies am amharodrwydd [unwillingness] rhai pobl yn y maes chwaraeon i siarad
Cymraeg wedi ennyn [kindle] ymateb chwyrn [heated] ymysg y Cymry. Fe ddywedodd 'Jiffy' bod
cywirdeb yn atal rhai pobl rhag siarad Cymraeg.
Ond ydy'r plismyn iaith yn bodoli i'r fath raddau, neu ai esgus ydy hyn i bobl roi gorau i siarad yr iaith?
Ar
fore cynhadledd yng Nghaerdydd i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon
ddydd Iau, fe siaradodd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas
Bêl-droed Cymru gyda'r Post Cyntaf am y rheswm pam nad ydy Aaron Ramsey - un o sêr y gamp - bellach yn defnyddio'r Gymraeg.
"Dwi'n
meddwl mai mater o ddiffyg hyder ydy o efo Aaron," meddai. "Mi
ddigwyddodd rhywbeth mewn cynhadledd gyhoeddus rhai blynyddoedd yn ôl ac
mi wnaeth hynny effeithio ar ei hyder o.
"Mi yda ni wedi ceisio
siarad efo Aaron am y peth sawl tro ond hira'n byd [the longer] mae'r peth yn mynd
ymlaen, mwya'n byd [the more] mae'n effeithio'r hyder. Ond i fod yn deg dydy Aaron
ddim yn hoffi gwneud cyfweliadau yn Saesneg beth bynnag!"
Un sydd wedi chwarae gyda Aaron Ramsey ydy'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones.
"Yndi,
mae o wedi digwydd," meddai Owain, wrth gyfeirio at bobl yn gwneud i
chwaraewyr deimlo'n anghyfforddus wrth ddefnyddio'r Gymraeg. "Dyna pam
o'n i'n cytuno efo geiria' Jonathan Davies.
"Efalla' ddylia ni wedi gwneud iddo fo deimlo'n fwy cyfforddus i
'neud cyfweliada' Cymraeg - a dwi ddim yn siarad am y bobl sy'n ei
gyfweld o'n unig, ond efalla yn y byd Twitter. Mae'n hawdd i'r trolls dd'eud
rwbath ac yn naturiol wedyn fel person, dim chwaraewr pêl-droed, mae
Aaron yn eistedd adra ac ella'n meddwl:
'Ydw i angan hyn yn fy mywyd?' A
pam ddylia fo os ydy o'n gwneud iddo fo deimlo'n anghyfforddus.
"Mae
Aaron yn byw bywyd mewn 'stafall newid lle mae 'na gymaint o ieithoedd
eraill yn cael ei siarad ond yn amlwg mae o wedi cael ei 'neud i
deimlo'n anghyfforddus siarad ei iaith ei hun. Dim fod hyn yn esgus
hawdd iddo chwaith ond mi allith o fyw heb [y Gymraeg] felly ein colled
ni ydy o."
Yn ôl gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Dylan Griffiths,
roedd adeg yn ystod Euro 2016 ble mai yn Gymraeg yn unig yr oedd Joe
Allen yn fodlon gwneud unrhyw gyfweliad.
"Anogaeth ac nid beirniadaeth sydd ei angen," meddai.
'Trafodaeth ystyrlon'
Mae'r
cyn-athro a'r ymgyrchydd iaith Ieuan Wyn o'r farn na ddylid "hyrwyddo [promote]
nac ymfalchïo [take pride in] mewn bratiaith" ac yn credu mai annog Cymraeg safonol sy'n
bwysig.
"Mae 'na ffordd i fynd ynglŷn â'r peth," meddai. "Dydy
pobl ddim yn sôn am ymosod [attack] ar unigolion. Creu sefyllfa sydd ei angen lle
mae 'na agwedd fwy gadarnhaol [positive] ac mae'n rhaid bod yn sensitif iawn efo'r
ffordd 'da chi'n mynd ati.
"Nid beirniadu unigolion ydy'r ateb,
na tynnu sylw at ddiffyg yn gyhoeddus fel yna. Diffyg sensitifrwydd ydy
hynny. Ond pan mae rhywun yn dibynnu ar dystiolaeth anecdotaidd mae'n
anodd cael trafodaeth ystyrlon [meaningful] am y peth."
Bu Cymru Fyw hefyd yn
siarad gyda'r person sy'n gyfrifol am gyfrifon Twitter a Facebook
poblogaidd, B**ycs Cymraeg, sy'n aml yn dod ar draws pobl sy'n cywiro ei
Gymraeg ar-lein.
"Pan mae pobl yn cael go ar B**ycs Cymraeg neu bobl eraill,
mae'r ymateb yn 99 y cant o blaid pobl yn dweud bod yn well ganddyn nhw
weld pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn hytrach na chywirdeb yr iaith.
"Mae'r
un person yna'n gallu 'neud lot o niwed. Ma' pobl yn mynd allan o'i
ffordd i ddefnyddio'r Gymraeg. Os ydy'r BBC yn gwneud camgymeriad yna
iawn, cael go arnyn nhw, maen nhw'n sefydliad ac maen nhw fod i
gael safonau, ond munud mae rhywun yn ymyrryd [interfere] ym mywydau pobl go iawn...
mae'n gallu rhoi pobl off."
Ond oes yna beryg bod sêr y
maes chwaraeon yn chwarae i'r naratif bod y mwyafrif yn bychanu'r [belittle] bobl
sydd ddim yn siarad Cymraeg 'perffaith'?
"Dydy o ddim y mwyafrif,
ond yn anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath," meddai
Owain Tudur Jones. "Os ti ar Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl
yn d'eud bod chdi'n 'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml
iawn un fel'na sy'n aros yn y cof."