Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Catrin Beard yn trafod y pynciau
sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r
blogiau ar raglen y Post Cyntaf, BBC Cymru.
Tydan ni fel Cymry'n
mwynhau ffrae? A does dim sy'n well na ffrae am yr iaith. Wiw i neb
feirniadu Cymraeg neb arall - mae'r term 'plismon iaith' yn amhosib i'w
ddweud gydag anwyldeb. Ond ar wefan Cymru Fyw, mae'r trydarwr @YBeiroCoch, sy'n cywiro negeseuon ei gyd-drydarwyr yn rheolaidd, yn egluro pam fod hyn yn bwysig.
Yn ôl y Beiro - ac ydi, mae'n trydar yn ddienw - anodd deall weithiau gymaint o amarch sydd gan y Cymry Cymraeg at y Gymraeg.
Byddant bob un yn bloeddio 'Er gwaethaf pawb a phopeth' ac 'o bydded
i'r heniaith barhau' tan berfeddion, heb sylweddoli mai nhw yw'r rhan
fwyaf o'r 'pawb' yna, a'u bod nhw'n gwneud mwy nag unrhyw 'hen Fagi a'i
chriw' i ladd yr iaith.
Ar ôl cywiriad penodol, derbyniodd storm o
feirniadaeth. Dyma, dywed, sy'n digwydd yn or-fynych yn y Gymru
Gymraeg. "Paid â gofyn am gywirdeb!" yw'r gri.
"Paid â mwydro am safonau! Dylet ti ddiolch am yr hyn o ddefnydd sydd. Ymfalchïa yn dy friwsion!"
Ond
mae'r Beiro Coch yn mynnu bod angen safonau a chywirdeb. Yn sylfaenol,
mae angen y rheiny er mwyn cael iaith iach - er mwyn iddi fedru anadlu a
thyfu, ac er mwyn cael patrymau y gall plant, a dysgwyr eraill, eu
hefelychu.
Ac oes, mae 'na ymateb i'w erthygl ar Twitter, gyda rhai'n cytuno â'r Beiro, ac eraill yn ei alw'n nonsens o'r radd flaena.
Prynwch eich popcorn, eisteddwch yn ôl a mwynhewch y sioe!
Geirfa
tydan ni = onid ydyn ni (ffurf lafar ogleddol)
wiw i neb = gwiw i neb yma "woe betide" "let nobody dare"
anwyldeb = enw o 'annwyl'
amarch = gwrthwyneb parch
yn or-fynych = yn rhy aml
mwydro = yma 'poeni' ystyr 'mwydro' fel arfer yw 'drysu, gwirioni'
tan berfeddion - perfeddion = guts
Er
bod mwy yn troi at wefannau, be' mae hyn yn ei olygu i newyddiaduraeth,
ac ydi'r patrwm yn un iach i'r diwydiant a'r ffordd mae pobl yn derbyn
newyddion? Ifan Morgan Jones, darlithydd mewn newyddiaduraeth ym
Mhrifysgol Bangor a chyn-olygydd, sy'n trafod:
Mwy o bobl yn darllen newyddion
Mae'r
cwymp yng ngwerthiant papurau newydd yng Nghymru yn ddrych i ddirywiad
sydd i'w weld ledled y Deyrnas Unedig ers sawl degawd, ac yn arbennig
felly ers y 90au a dyfodiad y rhyngrwyd.
Mae'r darllenwyr sydd yn well ganddynt brynu eu newyddion a'i ddarllen ar ffurf brintiedig yn prysur heneiddio.
Roedd y cwymp yng nghylchrediad y Western Mail yn
hanner cyntaf 2015, i 18,641, ymysg y mwyaf serth ymysg papurau newydd y
DU, gyda 14.9% yn llai yn prynu'r papur nag oedd yr adeg yma'r llynedd.
[cylchrediad - circulation]
Serch hynny, roedd y Western Mail ymysg deg uchaf papurau rhanbarthol y DU o ran denu ymwelwyr i'w wefan (Wales Online), gyda 261,553 o ymwelwyr unigryw bob diwrnod, cynnydd o 61.6% ar y llynedd.
Syrthiodd cylchrediad y Daily Post i 24,713, cwymp o 6.2% ar y llynedd, ond llwyddodd i ddenu 70,571 o ymwelwyr unigryw bob diwrnod i'w safle we.
Mae'n
bosib felly bod mwy o bobl nag ers degawdau yn darllen cynnyrch y
papurau hyn, er bod nifer bellach yn gwneud hynny ar-lein.
'Straeon peiriant sosej'
Ond
er bod newyddion hygyrch am ddim ar ein ffonau symudol yn ddatblygiad
cadarnhaol mewn sawl ffordd, mae yna le i bryderu am effaith y cwymp
mewn darllenwyr print a'r cynnydd mewn darllenwyr ar-lein ar safon y
newyddion yn gyffredinol a hefyd ar hyfywedd newyddion Cymreig.
[hygyrch = o fewn cyrraedd hwylus, accessible]
[hyfywedd = viability]
Nid
yw'r cyfryngau eto wedi dyfeisio model busnes newydd i gymryd lle'r un
sy'n prysur chwalu yn sgil y dirywiad yn nifer darllenwyr papurau print.
Nes eu bod nhw'n gwneud hynny, ni fydd modd cyflogi cymaint o
newyddiadurwyr.
Sgil effaith hynny yw rhagor o straeon o safon
isel, yr hyn a oeddwn i'n ei alw yn ystod fy nghyfnod fel golygydd yn
'straeon peiriant sosej' - hynny ydi'r rhai sy'n cael eu cynhyrchu yn
gyflym am nad oes amser na'r adnoddau i ymchwilio mewn dyfnder i
straeon o safon.
Yn hytrach na cheisio denu sylw darllenwyr gyda
straeon ymchwiliadol, y tueddiad yw cyhoeddi straeon â phenawdau sy'n
addo gormod, neu restrau hawdd eu hysgrifennu megis '10 Rheswm Pam Mai
Tom Jones oedd y Beirniad Gorau ar The Voice'.
Anodd denu hysbysebwyr
Mae'r
rhyngrwyd hefyd yn gofyn i'r newyddiadurwr fod yn fwy hyblyg wrth fynd
i'r afael â sawl cyfrwng yr un pryd. Gallai'r newyddiadurwr papur newydd
ugain mlynedd yn ôl ddibynnu ar ei bad ysgrifennu a'i feiro yn unig,
ond rhaid i'r newyddiadurwr print cyfoes yn aml recordio deunydd sain a
fideo yn ogystal â'u golygu ar gyfer gwefan y papur.
[rhyngrwyd = y we, internet]
[mynd i'r afael â rhywbeth - get to grips with]
Canlyniad
hynny yw bod straeon ymchwiliadol yn cymryd llawer o amser i'w gwneud, a
bod rhaid cynhyrchu rhagor o straeon o safon isel er mwyn llenwi'r
bwlch.
Dylai'r cwymp yng nghylchrediad y papurau newydd hefyd
beri pryder i'r rheini sy'n cefnogi cyfryngau Cymreig hyfyw. Efallai nad
papur cenedlaethol na chenedlaetholgar mo'r Western Mail na'r Daily
Post, ond maent yn adrodd ar newyddion Cymreig megis digwyddiadau'r
Senedd ym Mae Caerdydd.
[hyfyw - yn gallu byw a datblygu'n naturiol]
Oherwydd tlodi cymharol Cymru nid yw'n
farchnad sy'n denu hysbysebwyr, ac felly nid oes llawer o ddiben i
ffynonellau newyddion Prydeinig adrodd ar yr hyn sy'n digwydd yma.
Wrth
i gylchrediad y Western Mail a'r Daily Post syrthio ymhellach, mae'n
debygol y bydd cynnwys sy'n ymdrin yn benodol â Chymru yn cael ei
ddisodli fwyfwy gan gynnwys cyffredinol a masnachol sydd ar gael i sawl
ffynhonnell.
A oes dyfodol i'r papurau Cymreig?
Er bod y gynulleidfa Cymraeg ei hiaith yn meddu ar sawl ffynhonnell newyddion cenedlaethol, megis Golwg 360, Barn, y Cymro,
ayyb, pe bai'r Western Mail a'r Daily Post yn trengi byddai yn rhaid
i'r BBC gario bron a bod yr holl faich drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae'n
bosib y byddai asiantaethau newyddion megis y Press Association yn
penderfynu buddsoddi llai o'u hadnoddau ar adrodd o Gymru gan effeithio
ar arlwy'r gwasanaethau Cymraeg yn ogystal.
[trengi = marw]
[baich = llwyth, pwysau]
[arlwy yma: yr hyn sydd ar gael]
Mae'n debygol y bydd y
papurau Llundeinig mwyaf yn parhau yn hyfyw am ddegawdau eto, yn
arbennig felly am eu bod yn tueddu i ddylanwadu ar ba straeon sy'n cael
sylw'r darlledwyr. Efallai y bydd tuedd cynyddol iddynt gael eu prynu
gan gwmnïau mawrion a fydd yn eu gweld fel modd o ddylanwadu ar farn y
cyhoedd yn hytrach nag gwneud elw.
Mae'r dyfodol i bapurau
rhanbarthol megis y Western Mail a'r Daily Post yn llawer mwy ansicr ac
fe ellir yn y pen draw eu gweld yn troi yn bapurau wythnosol, yn cyfuno â
phapurau eraill neu yn symud yn gyfan gwbl ar-lein, y hynny y tu ôl i
fur talu os yw'r cylchrediad yn parhau i syrthio ar raddfa debyg dros y
degawdau nesaf.